Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd yn canlyn. Nid ydym yn abl i draethu ar gelfyddyd y pwnc. Gwyddom fod i gadeiriau. eu hanes yn yr ystyr hwn. Y mae llawer o honynt yn gywreinwaith o'r fath ragoraf; ac y mae pobl sydd yn medru porthi eu chwaeth at y cywrain yn rhoddi eu bryd, yn mysg pethau eraill, ar gasglu cadeiriau o wneuthuriad hynod, a hynny am eu bod yn fynegiad, mewn un wedd, o athrylith gywrain a chelfydd.

Ond ein hamcan syml ni yn bresennol, ydyw son am gadeiriau fel y maent yn delweddu gwahanol agweddau ar fywyd personol a chymdeithasol. Nid y gadair fel dodrefnyn yn gymaint, ond y gadair fel drychfeddwl. Yn yr ystyr hwn, y mae iddi hanes a dylanwad diamheuol, ac ni fu y dylanwad hwnnw un amser yn gryfach nag ydyw yn y dyddiau presennol. Gellir dweyd fod bywyd gwareiddiad yn canolbwyntio mewn cadair. Os sonir am allu meddyliol, y mae hwnnw yn ymgorphori mewn