Nhy yr Arglwyddi; ond y mae cadair arall sydd yn meddu ar lawn cymaint o ddyddordeb,—
CADAIR Y CORONIAD.
Y mae wedi ei lleoli yn monachlog hybarch Westminster. Nid ydyw y coronation chair ond dernyn digon caled a diaddurn yr olwg arni, ond y mae ei hanes yn gydblethedig â hanes a chynydd Prydain Fawr. Yn y gadair honno, yn y flwyddyn 1837, y derbyniodd ein grasusaf Frenhines ei choron a'i theyrnwialen. Mewn gweriniaeth fel eiddo Ffrainc, a'r Unol Daleithiau y mae y deyrngadair yn absennol. Cadair yr arlywydd ydyw pinacl anrhydedd. Y mae yr Unol Daleithiau yn ymferwi drwyddynt yn nglyn âg etholiad arlywydd. Y mae y cyffro enfawr, a'r draul anferth yr eir iddi bob pedair blynedd yn cydgrynhoi mewn cadair. Ac er fod llawer o ddylanwadau amheus ar waith, yn amser etholiad, y mae prif gadair gweriniaeth yn gadair agored. Gall