Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bechgyn o'r dosbarth gweithiol, fel Lincoln, Garfield, a Cleveland weithio eu ffordd ymlaen o'r bwthyn coed i'r Ty Gwyn,—i brif gadair eu gwlad.

Ond i ddod yn nes adref. Y mae cadair arall yn nglyn â'r byd gwleidyddol sydd yn meddu urddas ac awdurdod mawr. Adwaenir hi fel

"CADAIR Y LLEFARYDD,"

neu, cadair Ty y Cyffredin. Nid oes cadair yn Nhy yr Arglwyddi. Esmwythfainc sydd yno, ac y mae y brif eisteddfa yn cael ei galw yn "sâch wlan." Onid yw y geiriau hyn yn dra nodweddiadol o'r lle ac o'i breswylwyr? Cynrychiolwyr y bywyd esmwyth, di-ofalon, y rhai nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu, sydd yn cyfarfod yn y Ty hwnnw. Ond y mae awdurdod Ty y Cyffredin,—gweithdy y Wladwriaeth, —yn canolbwyntio mewn cadair. Cadair fawr, uchel, ydyw; y mae digon o le ynddi i hanner