Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dwsin o bobl gyffredin. Ac yn y gadair hon, mewn gwisgoedd swyddogol, gyda pherwig urddasol am ei ben, y mae y gwr a adwaenir fel "Mr. Speaker." Eistedda yn llonydd fel delw, ond y mae ei lygaid yn craffu ar bob ysgogiad. Y mae rheolaeth y Ty wedi ym- gorphori ynddo. A phan gyfyd teimladau yn uchel, pan boetha y ddadl, clywir y gair "chair" yn dygyfor o'r gwaelodion. Dyna breswylydd y gadair yn codi, yn mynegi y ddeddf, a bu tawelwch mawr. Nis gellir treulio noson o'r braidd yn oriel Ty y Cyffredin heb dderbyn argraff ddigamsyniol o'r gallu dystaw, yr awdurdod oruchel sydd wedi eu personoli yn y Gadair.