Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nis gellir dweyd gyda sicrwydd beth ydyw oedran y ddefod o gadeirio. Gwyddis fod yr Athraw J. Morris Jones, wedi taflu amheuaeth, os nad rhywbeth mwy, ar henafiaeth honedig yr Orsedd a'i gwasanaeth. Dichon y gwnelai yr un peth â'r ddefod o gadeirio. Ond y mae hyn yn arferiad, bellach, er's llawer dydd, ac y mae y dyddordeb a deimlir yn y seremoni gan y lluaws yn anwadadwy.

Y mae "Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain," yn trafod pwnc y cadeiriau Eisteddfodol, ac yn dadleu dros eu hawdurdod a'u henafiaeth. Sonia am Gadair Morgannwg, Cadair Tir Iarll, Cadair y Ford Gron, &c.:—

"Gwedi cwymp Arthur aeth celfyddyd a gwybodaeth dan orchudd, herwydd difrod ac anrhaith rhyfeloedd gwaedlyd: heb braidd llenlewyrch yn tywynu i ddeffroi ymgais. Tua dechreu y nawfed ganrif ymddangosodd awenydd athrylithlawn, goleufyw,—Ceraint Fardd