Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Glâs o'r Gadair, yr hwn a gododd Gadair adgywair wrth gerdd, yn Llandaf, a'r gair cyssŵyn, 'Duw a Phob Daioni.' A thyma ddechreu Cadair Morgannwg, yn ymrafael ar Gadair Beirdd Ynys Prydain, sef, un Caerlleon ar Wysg, er mai blynyddau ar ol hynny y galwyd hi yn Gadair Morgannwg."

"Einion ap Collwyn a ddodes y Gadair gyntaf yn Nhir Iarll, lle ei gelwid Cadair Einion."

"Cadair Taliesin, Bardd Urien Rheged yn Llanllychwr a elwid Cadair Fedydd am nas gellid Braint Athraw ynddi ond a fyddai dan fedydd ac adduned y ffydd yn Nghrist; a'r gair cyssŵyn, 'Da'r maen gyda'r Efengyl,' a'r gair hynny a fu hyd amser Rhobert, Iarll Caerloyw. A dodi ar gadair Tir Iarll chwilio yn maes hen wybodau Barddas; a chwedir chwiliaw, a'r caffael, a'r cadarnhad,—dwyn adwaedd Prif Gadair a Gorsedd, &c." Ond y