Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae ysgrif arall yn rhoddi y flaenoriaeth i'r Ford Gron. "A goreuon o'r hen ddefodau y cafwyd dosbarth y Ford Gron. . . . Ag un y Ford Gron oedd honno, yn amgen ei threfn na Thir Iarll . . . A'r ddegfed flwyddyn. cynal ail Eisteddfod Fawr Caerfyrddin, lle ennillodd Dafydd ap Edmwnt y Gadair Arian am ei orchestion a fernid yn oferbwyll celfyddyd gan feirdd Morgannwg; a Llawdden, yn Bencerdd Cadeiriog, a gafodd y Fwyall Aur am ei wellhad ar y cynganeddion, ac ni bu achos gwellhau arnynt ymhellach fyth wedi hynny! Ac yn yr Eisteddfod honno Beirdd Morgannwg a ddodasant eu gwrthneu yn erbyn Dosbarth Pedwar Pennill ar Hugain Dafydd ap Edmwnt . . . . ac o hynny allan aeth Cadair Morgannwg ar ei phen ei hunan yn mraint Beirdd Ynys Prydain, âg yn ei chesail Dosparth y Ford Gron, fal ag a'i cadarnhäed yno gan Rhobert, Iarll Caerloyw, a Mabli ei wraig, y