gwyr cymhwys i farnu yn cyfrif rhai o ganeuon Ceiriog, a rhai o bryddestau Islwyn, yn geinion ein llenyddiaeth farddonol. Ond yn herwydd. caethder y mesurau gwarantedig—"porth cyfyng" y pedwar mesur ar hugain, cawsant eu hamddifadu o anrhydedd y gadair. Yr oedd darlithydd poblogaidd, yn ddiweddar, yn "diolch i'r nefoedd" nad ydoedd Islwyn wedi ennill cadair yr Eisteddfod. Prin y gallwn. ddodi ein Hamen wrth y gosodiad. Yr ydym yn hytrach yn gofidio fod yr Eisteddfod, oherwydd culni ei rheolau, wedi colli y cyfle i roddi parch i'r sawl yr oedd, ac y mae parch yn ddyledus. Yr un pryd, parod ydym i gyffesu fod Cymru wedi ei breintio â darnau godidog o farddoniaeth dan oruchwyliaeth gyfyng y gynganedd, er na chafodd yr oll, hwyrach y goreuon o honynt, ddim eu hanrhydeddu â chlod y gadair. Y mae "Elusengarwch" Dewi Wyn; "Dinystr Jerusalem" Eben Fardd;
Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/33
Gwedd