Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Creadigaeth" Emrys; "Rothsay Castle Caledfryn; "Heddwch" Hiraethog; "Rhagluniaeth Tafolog, &c., i'w rhestru yn mysg gemau yr iaith.

Golygfa ddyddorol, gofiadwy, fel rheol, ydyw cadeiriad y bardd. Y mae môr o wynebau yn amgylchynu y llwyfan. Y mae y pryder yn dwyshau fel y mae y feirniadaeth yn mynd rhagddi. Dywedir fod yna bedwar—tri—dau—yn rhagori. Y mae y glorian yn ysgwyd yn betrusgar am enyd; ond, dyna y fantol yn troi, a ffugenw y buddugol yn cael ei floeddio uwch ben y dorf. Dyna rywun yn codi yn y seddau cefn, clywir mil o leisiau yn ymholi—Pwy ydyw? Y mae y seindorf yn chwareu ymdeithgan y concwerwr. Dyna'r bardd ar y llwyfan. Arweinir ef yn ofalus i ymyl y gadair. Noethir y cledd uwch ei ben, a gofynnir y cwestiwn holl-bwysig,—"A oes heddwch?" Ac wedi cael atebiad boddhaol