gan y gwyddfodolion, gweinir y cledd, caniateir i'r cystadleuydd ffodus eistedd yn ei gadair, a chyhoeddir ef yn brif—fardd y flwyddyn. Ond y mae wedi digwydd cyn hyn fod y bardd buddugol wedi gado y byd cyn i ddiwrnod y cadeirio ddod. Felly y bu yn nglyn âg Eisteddfod Gwrecsam,—yr hon a gofir fel Eisteddfod Y GADAIR DDU. Nis gall neb oedd yn bresennol anghofio'r olygfa. Darllenwyd y feirniadaeth fel arferol. Cyhoeddwyd ffugenw yr ymgeisydd llwyddiannus, ond nid oedd yno lef na neb yn ateb. Hysbyswyd yn mhen enyd mai y buddugol ydoedd Taliesin o Eifion,—yntau fardd gloew yn farw'n ei fedd! Dodwyd amlen o frethyn du ar y gadair; galwyd ar Edith Wynne i ganu un o alawon wylofus Cymru. Daeth hithau ymlaen ar y llwyfan, a dechreuodd ganu nodau lleddfol, hiraethus, "Dafydd y Garreg Wen." Meddiannwyd y dyrfa gan ryw deimlad
Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/35
Gwedd