Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dystaw, dwys; llifai deigryn dros lawer grudd; gorchfygwyd y gantores enwog ei hun, a gorfu iddi eistedd ar ganol y gân. Y mae yna lawer adgof, dyddan a phrudd, yn gysylltiedig â chadair y bardd.

II. CADAIR Y GOLYGYDD.

Cadair anweledig i'r cyhoedd ydyw hon, ond y mae ei dylanwad yn fawr a chynyddol. Ychydig mewn cydmariaeth sydd yn gwybod nemawr am ochr fewnol bywyd newyddiadurol ein teyrnas. Mae'n hysbys fod swyddfa newyddiadur yn lle rhyfedd. Yn mysg pethau eraill, y mae yno fôd a adwaenir fel d——l y wasg. Efe sydd yn cyflawni pob drwg; yn cymysgu llythyrenau, yn torfynyglu ysgrifau, ac yn gwneyd troion angharedig â gohebwyr diniwaid. Y mae yno wr arall a elwir yn foesgar wrth yr enw "Mr. Gol." Credir fod ganddo dri pheth yn amgylchynu ei bersonoliaeth ddirgeledig, nid amgen, bwrdd, basged, a