Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chadair. Un o'r pethau cyntaf y daw gohebydd i wybod am dano ydyw y bwrdd,—bwrdd y golygydd. Y mae hwnw yn llawn, fel rheol, nid o drugareddau, ond o ysgrifau o bob rhyw fath. O dan y bwrdd y mae basged—y Fasged, ac y mae yna ryw gymundeb dirgelaidd cyd—rhwng y naill a'r llall. Y mae y fasged ddidostur hon wedi bod yn feddrod anamserol i lawer cân ac ysgrif fuasent, ond cael chwareu teg, wedi dod yn anfarwol. Ond y peth penaf ydyw y gadair, cadair y Golygydd. Dyna ganolbwynt awdurdod; y mae gair y gadair hon yn derfynol. Oddiyma y mae y newyddiadur yn derbyn ei gyfeiriad a'i nod. Ac i bawb sydd yn ymsyniol o ddylanwad y wasg, fe gydnabyddir ei fod o'r pwys mwyaf i'r gadair hon gael ei llanw gan wyr egwyddorol a chraff. Y mae erthyglau y "papyr newydd," llef ddystaw fain y wasg ddyddiol ac wythnosol, yn meddu dylanwad