iddynt eu hunain enw arhosol ar faes newyddiaduriaeth Americanaidd. Daeth George Jones, yn olygydd a pherchen y Tribune, a phrofodd. ei hun yn wr egwyddorol a diofn. Yr oedd twyll masnachol yn cael ei ddwyn ymlaen yn ddirgelaidd yn y blynyddau hyny dan yr enw. "weed ring." Daeth y ffeithiau i ddwylaw George Jones, a phenderfynodd eu dadlenu ger bron y byd. Yn y cyfamser, anfonwyd un o swyddogion cudd y ring at y newyddiadurwr, a chynygiodd iddo filiwn o ddoleri, ar yr amod iddo beidio cyhoeddi y ffeithiau oedd yn ei feddiant. Miliwn o ddoleri, ddarllenydd. Dyna y bribe fwyaf y mae hanes am dani, ond cafodd ei gwrthod, gyda diystyrwch, a chyhoeddwyd y dadleniad cywilyddus yn y Tribune fore drannoeth. Well done, George Jones. A oedd yn Gymro nis gwyddom. Gobeithiwn ei fod. Gwyddom am wr arall sydd wedi aberthu swydd golygydd, oedd yn
Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/39
Gwedd