Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynwys cyflog o ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn yn hytrach na chefnogi llenyddiaeth y "gamblo" yn y newyddiadur oedd o dan ei ofal. Dynion o'r egwyddorion hyn ddylai fod yn llanw cadair y golygydd yn mhob swyddfa newyddiadurol o fewn y deyrnas. Pe ceid hynny, deuai y newyddiadur ar bob achlysur, yn bregethwr cyfiawnder, ac yn apostol purdeb.

III. CADAIR YR AWDWR.

Nid ydyw hon yn gadair swyddogol. Y mae yn haeddu ei hanrhydeddu ar gyfri'r ffaith fod rhywun wedi bod yn ei defnyddio i ysgrifenu yr hyn nad â i dir anghof; rhyw ddernyn llenyddol sydd yn cael ei ddarllen, eilwaith a thrachefn, gyda mwynhad. Dyna gadair John Bunyan, lle yr ysgrifennwyd y breuddwyd anfarwol; cadair Walter Scott, lle yr ysgrifennwyd rhamantau cynhyrfiol y canol-oesoedd; cadair Carlyle, lle y bu efe yn