cael ei well. Anfantais i ddyn astudio ydyw. presenoldeb y sofa a'r gadair esmwyth. I amcanion meddyliol y mae y bwrdd plaen a'r gadair galed yn llawer mwy pwrpasol. Os trown ein golwg i'r gorphenol, ni a gawn fod y llyfrau hynny sydd wedi gadael eu hargraff ar y byd, y llyfrau na byddant feirw,—wedi eu cyfansoddi o dan amgylchiadau digon celyd. Nid oddiar sofa yr ysgrifenwyd Epistolau Paul; yn nghell oer a diaddurn y carchar y rhoddwyd ffurf i amryw o honynt. Cyfansoddodd Luther luaws o'i lyfrau tra yn garcharor yn nghastell y Wartburg. Dywedir mai mewn ystafell syml, heb ddim braidd ynddi ond bwrdd noeth a chadair dderw galed, y bu Jonathan Edwards yn llunio ei draethawd dyfnddysg ar "Ryddid yr Ewyllys." Gŵyr pawb mai yn ngharchar Bedford, heb un esmwythfainc yn agos ato, y bu Bunyan yn ysgrifenu ei freuddwyd anfarwol. Mae yn dra thebyg pe cawsai athrylith
Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/42
Gwedd