Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y tincer ei suo i gysgu ar lythau y palas, y buasai y byd heb "Daith y Pererin." Mae yn hysbys ddigon mai ysgrifenydd diflin ydoedd John Wesley, eithr nid mewn easy chair yr oedd yn cyfansoddi, ond yn hytrach na cholli mynyd o amser, fe ysgrifenai ei feddyliau tra yn marchogaeth o'r naill dref a dinas i'r llall i bregethu efengyl y deyrnas. Nid oddiar esmwythfainc yr ysgrifenwyd hanes teithiau dyddorus Livingstone a Stanley, a llu o lyfrau eraill y gellid eu henwi. Mewn gair, y mae moethau yn angeuol i bob gorchest feddyliol. Rhaid cosbi y corff a'i ddwyn yn gaeth, os yw y deall a'r rheswm i gael chwareu teg. Pan yn myned i fyfyrgell ambell frawd, a gweled y sofa harddwych un ochr i'r ystafell, a'r gadair fraich ddofn, esmwyth, o flaen y tân, nis gallwn lai na meddwl am gynghor Stowell Brown,—Gochelwch yr esmwythfainc! I efrydydd, y mae honno fel Dalilah yn ei demtio i dreulio