Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei amser mewn oferedd, a pha beth bynnag oedd ei allu neu ei ragoriaethau yn y gorphenol, daw yn fuan fel "gwr arall." Nis gall "ymysgwyd" o flaen y cyhoedd megys cynt, a daw astudio yn faich ac nid yn fwynhad. Ac wrth y bechgyn diwyd hynny sydd yn ymroi i ddarllen. a meddwl dan anfantais, y dywedwn,—Na chwenychwch yr esmwythfainc. Y mae yr awr a ysbeilir oddiar y duw dwl cwsg yn y boreu cyn myned at orchwylion y dydd, neu y seibiant a dreulir mewn ystafell ddiaddurn wedi i waith y diwrnod fyned drosodd, yn ddysgyblaeth feddyliol o'r fath oreu. Y mae amser a brynir yn ddrud fel yna yn sicr o ddwyn ffrwyth ar ei ganfed. Clywais aml i fachgen meddylgar o weithiwr yn dweyd,—"Beth pe cawn ddiwrnod cyfan i ddarllen llyfr ? Beth pe buasai gennyf ystafell hardd a llyfrgell helaeth i mi fy hun!" Credai na fuasai dim yn sefyll o'i flaen; mai darllen a