Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Micawber, Oliver Twist, a Little Nell. Y mae oriel cymeriadau Dickens yn cynnwys cyd-gasgliad rhyfedd ac amrywiaethol, ac nid enwau dychymygol ydyw y rhan fwyaf ohonynt. Yr ydys yn teimlo eu bod yn sylweddau byw, ac yn dod i'w caru, neu eu cashau yn angerddol. Onid oes amryw o'r cymeriadau hyn, bellach, wedi dod yn enwau ystrydebol ar y dosbarth a gynrychiolid ganddynt? Do, bu cadair Dickens yn ganol-bwynt i ysbrydion drwg a da i gyd-grynhoi, a chafodd amryw ohonynt enw a nod a erys am lawer oes. Ciliodd yr awdwr ohoni ryw brydnawn,—byth i ddod yn ol. Ac nid oedd neb fedrai lanw ei le. Cadair wag ydyw, ac a fydd y gadair honno mwy.