Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD V.

CADAIR YR AELWYD.

PRIF nodwedd y gadair hon ydyw anwyldeb a serch. Y mae yn perthyn iddi awdurdod, ond nid awdurdod noeth ydyw; awdurdod wedi ei wisgo â hyfrydwch. Nid athrylith, nid talent, sydd yn llywodraethu y gadair hon. Ei harwyddair ydyw tiriondeb a hynawsedd. Y mae adgofion boreu oes yn blethedig am dani fel yr eiddew am y pren. Cadair mam a thad, brawd a chwaer,-gymaint o stori bywyd sydd wedi derbyn ei hystyr o'r mannau hyn! Y