mae Eliza Cook wedi canu llawer dernyn a lithra i dir angof, ond y mae ganddi un gân, o leiaf, sydd i fyw,—"Hen Gadair Fraich fy Mam."
I love it, I love it; and who shall dare
To chide me for loving that old arm-chair?
I've treasured it long as a sainted prize:
I've bedewed it with tears, and embalmed it with sighs ;
'Tis bound by a thousand ties to my heart;
Not a tie will break, not a link will start,
Would ye learn the spell? a mother sat there;
And a sacred thing is that old arm-chair.
Nid oes odid yr un bardd wedi canu ei adgofion, heb fynd i'r gongl wrth y tân, lle yr oedd cadair yr aelwyd yn disgwyl rhywun adref gyda'r nos. Mor naturiol ydyw y desgrifiad canlynol gan Glan Alun:—
Mi wela nhad mewn cadair freichiau fawr, |