Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadair bennaf. Y mae anrhydedd, awdurdod, ac anwyldeb yn cyd—ymgrymu uwch ei phen fel y cerubiaid uwchben y drugareddfa. Ac wedi i'r anwyliaid fuont yn eistedd ynddi gael eu galw i wlad yr angel a'r delyn, y mae rhyw ysbryd gwyn yn sibrwd am danynt, fel y dywed Islwyn am ei fam:—

Ai breuddwyd mawr ei rin,
A gefais wrthyf f'hun,
Ai rhyw gerûbiaidd lûn
A welais fry?
Un fraich o dan fy mhen,
A'r llall fyth tua'r nen
Yn gofyn bendith wen
A rhad i mi.

Arhosed cadair yr aelwyd yn Nghymru, megis y mae wedi bod mewn cannoedd o gartrefi cyffredin a diaddurn, — arhosed eto yn orsedd, yn allor, ac yn ffynhonell mwynhad. Yna, gellir cymhwyso llinellau Dewi Wyn at y rhai a fegir o'i deutu,—

Uwch, uwch, uwchach yr êl,
Dringed i gadair angel.