Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyner ac iraidd,—dyna'r pryd y mae gwersi'r aelwyd yn diferu eu balm neu eu wermod ar y galon a'r côf. Os bydd addysg tad yn yr adeg hon yn "addysg dda; " os bydd deddf yr aelwyd yn "gyfraith trugaredd a gwirionedd," yna gellir disgwyl i'r sawl a feithrinir dan ei dylanwad ddod i garu doethineb, ac i ymhyfrydu yn llwybrau deall. Y mae cadair mam yn sedd frenhinol; y mae'n perthyn iddi deyrnwialen a choron. Teyrnwialen aur cariad a hynawsedd, ac nid gwialen haiarn gorfodaeth a gerwindeb. Tra y cedwir y gadair deuluaidd yn gysegredig i burdeb a rhinwedd, yna bydd awdurdod y "goron" yn ddiogel. Coronir ymdrechion yr aelwyd ag ufudd—dod a pharchedigaeth, ac nis gall ysbryd yr oes ddenu y Cymro ieuanc i wadu addysg tad, nac i ymado â chyfraith ei fam.

Ac yn yr ystyr hwn, cadair yr aelwyd ydyw yr uwchaf, yr ardderchocaf o'r oll. Hon yw y