Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gosodwn werth ar y gadair hon,—cadair yr aelwyd, cadair anwyldeb a serch. Ceisiwn ei llanw a'i phriodoleddau dymunol ei hun. Dichon fod yna lawer o gadeiriau na chawn y fraint o eistedd ynddynt. Ychydig sydd yn llwyddo i esgyn i gadair anrhydedd ac enwogrwydd, ond y mae cadair yr aelwyd yn agos atom, ac yn gyfleusdra rhagorol i ddadblygu yr ochr oreu i gymeriad, rhinweddau y galon, tiriondeb, a serch. Os gwneir hynny yn y blynyddau sydd yn dod, fe gedwir dylanwadau bywiol a phur yn ein gwlad.

Y mae llwyddiant y gyfundrefn addysgawl sydd wedi ei sefydlu yn ein plith yn dibynu i fesur mawr ar nodwedd yr addysg a gyfrennir o gadair mam a thad. Y mae rhyw ddylanwad, da neu ddrwg, sydd ymron yn annileadwy, yn cael ei gyfrannu yn y llanerch gysegredig hon. Pan y mae blagur serch ac edmygedd yn dechreu ymagor, pan y mae y meddwl yn