Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ar ei ol, cyfododd Robert Roberts. Yr oedd difrifoldeb ofnadwy ar ei wynebpryd. Darllenodd ei destyn. Ymddangosai ar y cyntaf braidd yn bryderus. Siaradai yn llai manwl nag y byddai yn arfer gwneyd. Yn raddol, y mae ei ddawn yn rhwyddhau, ei lais yn clirio, a'r olwg arno yn dyfod yn fwy-fwy difrifol. Y mae yn myned rhagddo, ac yn cymeryd gafael yn enaid yr holl gynulleidfa,—y mae rhai yn llewygu, y lleill yn gwaeddi, ac yntau a'i lais fel udgorn Duw yn treiddio drwy y lle. Ar hyn, neu rywbryd yn ystod yr oedfa, dyna y bachgen arall yn troi at Elías Parry, ac yn gofyn iddo, a'i wynebpryd yn welw fel corph marw,— Dyn ydi o, fachgen, ynte angel? Ond angel, fachgen, wyddet ti ddim? Na wyddwn i, yn wir; bobl anwyl, ond ydi angel yn well pregethwr o lawer na dyn!'"—O. Thomas, D.D.


"Fel angel yn rhodio dros fwa y cwmwl,
A'i fys yn cyfeirio yn union i'r nef,
A'i fantell fel boreu o aur ar y nifwl,
A nerthoedd y nefoedd i gyd wrth ei lef:
Fel hyny y rhodiai y pennaf areithydd
Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed,
A coed i rychwantu y duon wybrennydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed."—Islwyn.


DRO yn ol, ymddangosodd hanes haf-daith i Glynnog mewn cyhoeddiad misol. Adolygwyd yr ysgrif gan henafgwr o Arfon, a dywedai ei fod wedi ei daro â syndod oherwydd nad oedd