Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddi un crybwylliad am "Robert Roberts," y seraph-bregethwr a roddodd fawredd anniflanedig ar bentref tawel Clynnog. Yr oedd y sylw yn cynwys beirniadaeth deg, er mai pwrpas llenyddol yn fwyaf neillduol oedd i'r ysgrif. Ac eto nid "Clynnog" yr ymdeithydd damweiniol hwnnw ydoedd "Clynnog" Robert Roberts, yn ystyr fanwl y gair. Mae'n wir fod ei farwol ran yn gorwedd yn mynwent Beuno, ond treuliodd ei yrfa fer, hynodlawn, ar un o lechweddau y fro, yn y fangre wledig a adwaenir fel "Capel Uchaf;" ac yno y cedwir y relic sydd yn cael ei gyfleu mewn darlun gerbron y darllenydd ar y dalennau hyn,—

CADAIR ROBERT ROBERTS.

Cyn gwneyd dim sylw pellach ar y dodrefnyn oedranus, ond dyddorol hwn, manteisiol fyddai crybwyll ychydig o ffeithiau cysylltiedig â hanes y gŵr fu unwaith yn berchen y gadair, a osododd y fath fri arni, fel y mae caredigion