Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr achos wedi ei chadw yn barchus er's yn agos i gan' mlynedd, er cof am dano. Ganwyd ef yn mis Medi, 1762, yn Ffridd-bala-deulyn, annedd ddiaddurn yn un o gymoedd Nantlle. Yr oedd yn un o dri-ar-ddeg o blant. Chwarelwr oedd ei dad, ac yn gynar iawn ar ei oes, gorfu i'r bachgen ddechreu ennill ei fywioliaeth yn nghloddfa y Cilgwyn. Cafodd hyfforddiant crefyddol da ar aelwyd ei nain, ond wedi tyfu'n llanc collodd y dylanwadau hyn eu gafael, am ysbaid, ar ei feddwl. Ymollyngodd i fywyd penrydd ac anystyriol. Ni pharhaodd y cyfnod hwn yn hir. Yn y flwyddyn 1779, daeth yr efengylydd pereiddfwyn "Jones. o Langan" i bregethu i Frynrodyn, ar nawngwaith yn yr haf. Pregethai ar destyn tra nodweddiadol o'i ysbryd a'u ddawn." Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol." Yr oedd Robert Roberts, wedi dod i'r oedfa, trwy berswâd ei frawd, John (y Parch. John