Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Roberts, Llangwm, wedi hyny). Aeth saeth oddiar fwa gwirionedd i'w galon. Bu am wythnosau yn mhangfeydd argyhoeddiad, ond fe droes i'r "amddiffynfa," a gwawriodd cyfnod newydd ar ei fywyd. Cefnodd ar y chwarel, ac ymsefydlodd fel gwas fferm yn Eifionydd. Ymaelododd yn Eglwys Brynengan. Nid oedd wedi cael dim manteision addysgawl, ond yn y blynyddau hyn ymroddodd i ddiwyllio ei feddwl, ac i gymhwyso ei hun, yn ddiarwybod, ar gyfer y dyfodol dysglaerwych oedd yn ei aros. "Yr oedd yn ymroddi i ddarllen; yn hoff iawn o wrando pregethau; yn arfer ysgrifennu y pregethau a wrandewid ganddo, o'i gof, yn fanwl ar ar ol myned adref; yn myned yn gyson, ddwywaith neu dair neu bedair yn y flwyddyn, i Langeitho, gyda hen grefyddwyr eraill o gymydogaeth Brynengan, i wrando Mr. Rowland, ac i'r cymun sanctaidd; ac yn cofio, yn ysgrif-