Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ennu, ac yn adrodd ei bregethau braidd yn gyflawn."

O ran ei ddyn oddiallan, yr ydoedd, yn yr adeg hon, yn ŵr ieuanc tal, lluniaidd, ystwyth-gryf, a dysglaerdeb athrylith yn pelydru yn ei lygaid. Ond daeth cyfnewidiad drosto,—cyfnewidiad a effeithiodd ar ei ymddangosiad dros weddill ei oes. Gostyngwyd ei nerth ar y ffordd. Yn nghanol ei ireidd-dra a'i nerth, ymaflwyd ynddo gan afiechyd blin. Bu yn dihoeni, rhwng bywyd a bedd, am fisoedd, a phan ddaeth yn abl i symud o'i orweddfa, prin y gallai ei gydnabod gredu mai yr un gŵr ydoedd. "Yr oedd golwg ryfedd arno; yr oedd rhyw grebychiad ar ei ewynau, ac ar amwydyn ei gefn, nes ei wneyd yn grwcca hollol o ran ei gorph; ac felly y bu holl ystod ei weinidogaeth, ac hyd ddiwedd ei ddyddiau."

Ond er llygru y dyn oddiallan, ac er colli yr addurn a feddai gynt, yr oedd llewyrch ei