Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

athrylith eneiniedig, i wedd-newid y tabernacl daearol i'r fath raddau, nes y byddai dynion, ar brydiau, yn meddwl mai angel Duw oedd yn llefaru wrthynt. Wedi ei wisgo â'r nerth o'r uchelder, byddai rhyw ogoniant anghydmarol yn disglaerio yn ei wynebpryd, ac yn trydanu ei ymadroddion.

Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1787, pan ydoedd yn 25 mlwydd oed, yn nghanol gwres diwygiad. Yn ystod blynyddau cyntaf ei weinidogaeth, bu yn cadw ysgol Gymraeg mewn amryw barthau yn Eifionydd, ond yn herwydd y galwadau lluosog oedd yn y wlad am dano, rhoddes yr ysgol i fyny, ac ymsefydlodd yn nhy'r capel,—Capel Uchaf, Clynnog, ac yno y bu hyd derfyn ei oes. "Fe dynodd ei weinidogaeth, braidd ar unwaith, sylw cyffredinol, a daeth yn fuan y pregethwr mwyaf poblogaidd yn Nghymru. Yr oedd rhywbeth ynddo fel pregethwr ag y