Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae yn amhosibl ei ddarlunio, a rhywbeth nas gallwn ni . . . . . ffurfio prin un dychymyg am dano. Tystiolaeth pawb ar ai clywsant yw, na chlywsant neb cyffelyb iddo. Yr oedd y fath rwyddineb yn ei ddawn, y fath angerddoldeb yn ei deimlad, y fath fywiogrwydd a nerth yn ei ddychymyg, y fath amrywiaeth yn ei lais, a'r fath allu ganddo i'w daflu ei hunan yn gwbl i'r mater a fyddai ganddo dan sylw, nes y byddai yr effeithiau ar y cynulleidfaoedd yn hollol drydanol. Ar adegau felly, byddai golwg ryfedd arno ef ei hunan,—byddai dan gynhyrfiadau ofnadwy. Weithiau byddai ei lygaid yn melltenu nes gwneyd braidd yn amhosibl edrych arno; weithiau fe'i canfyddid yn sirioli nes rhoddi gwên ar bob wyneb; ac, yn amlach, byddent yn ffynonau o ddagrau, nes cynyrchu wylo cyffredinol drwy y gynulleidfa. Pa beth bynag fyddai pwnc y bregeth, fe'i datguddiai ei hunan yn agweddau ei wynebpryd,