Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ysgogiadeu ei gorph, yn nhôn ei lais, yn gystal ag yn netholiad ei eiriau, a ffurfiad ei frawddegau, nes peri i'r gwrandawyr nid yn unig ei ddeall, ond ei deimlo."

Dywed yr un awdwr yn mhellach, wrth symio i fyny ei ddesgrifiad godidog o "seraph-bregethwr Cymru,—" Pymtheg mlynedd a fu parhad ei dymhor gweinidogaethol; ac yn yr ysbaid byr hwnnw, er holl anfanteision amgylchiadau isel, amddifadrwydd hollol O ddysgeidiaeth athrofaol, ac ymddangosiad allanol eiddil ac anolygus, fe adawodd argraph mor ddwfn ar feddwl ei genedl, fel y mae ei enw yn air teuluaidd hollol gan filoedd lawer ohonynt, yn mhen 70 mlynedd [95 mlynedd, bellach], wedi ei gladdu. Yn y bywyd, y teimlad, y grym,-ac yn enwedig yn y dull drychebol, neu pa air Cymraeg a gawn am dano (dramatic), tra effeithiol, ag sydd i fesur yn hynodi y Pulpud Cymreig eto, yr oedd arbenig-