Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rwydd neillduol yn ngweinidogaeth Robert Roberts, Clynnog."

Ië, dim ond pymtheg mlynedd o fywyd cyhoeddus, ac eto i gyd, wedi cerfio ei enw yn anileadwy ar hanes pulpud a chrefydd Cymru. Bu farw yn mis Tachwedd, 1802, yn 40 mlwydd oed. Nid oes ond careg las, seml, ar ei feddrod yn mynwent y plwy', ond y mae'n gerfiedig arni bedair llinell gynwysfawr o eiddo Eben Fardd, llinellau sydd yn grynhodeb o nodweddion y gwr y bydd Cymru am lawer oes yn chwenych ei anrhydeddu:—

Yn noniau yr eneiniad,—rhagorol
Fu'r gwr mewn dylanwad;
Seraph, o'r nef yn siarad,
Oedd ei lun yn ngwydd y wlad.

Dichon y daw ton o frwdfrydedd cyn bo hir, yn nglyn ag enwogion Arfon, ac y codir cofgolofn hardd i fytholi hanes Robert Roberts, megis y gwnaed eisoes â rhai o'i gyd-oeswyr.