Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y cyfamser, boed i bobl dda Clynnog gadw gwyliadwriaeth serchog ar ei orweddfa. Na chaffed adfeiliad nac esgeulusdra hacru beddrod gwr Duw.

Ond er mai yn Nghlynnog y gorphwys ei weddillion, nid yno yr oedd ei gartref, eithr mewn ardal lonydd ar y bryniau cyfagos, a adwaenir fel Capel Uchaf. Y mae yn agos i ganrif er hynny, ac nid ydyw Capel Uchaf y dyddiau diweddaf hyn yn debyg i'r hyn ydoedd yn ei amser ef. Nid oes yno ddim o'r braidd yn tystiolaethu am dano,—dim cof-len ar y mur, dim llyfr nac ysgrif—dim ond y dodrefnyn yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano —cadair y prophwyd. Nis gwyddom am ba hyd y bu yn ei feddiant, na pha faint o ddefnydd a wnaeth efe ohoni. Yr ydoedd yn treulio llawer o amser oddicartref, ar deithiau pregethwrol, ond pan yn ei gynefin, yn darllen ac yn parotoi ar gyfer y pulpud, deallwn mai dyna ei gadair ddewisol