Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar yr aelwyd. Ar y cyfrif hwn, y mae yn gräir (relic) gwerthfawr. Y mae amryw o enwogion Cymru, o bryd i bryd, wedi bod yn ei gweled, ac nid oes un amheuaeth am ei dilysrwydd. Dilynwn eu hesiampl, a cheisiwn gynorthwy gwerthfawr y camera i'w dodi, fel y mae, gerbron y darllenydd.

Cyrhaeddasom bentref Clynnog ar foreu tyner yn Medi, 1897. Yr oedd gwenau yr "haf bach" yn sirioli y llechweddau. Cawsom gwmni a hyfforddiant "esgob" presennol Capel Uchaf, a dechreuasom ddringo'r bryn. Yr oedd y mwyar duon yn dryfrith ar ochrau y clawdd, ac anhawdd oedd gwrthsefyll y demtasiwn i wledda arnynt, yn hytrach nac ymlwybro ymlaen. Wedi dringo encyd, ar hyd ffordd gul, a'r hin yn frwd, daethom i ben y bryn, ac yr oedd yr awel mor falmaidd, fel yr oedd yn rhaid gorphwys, oherwydd yr oedd.