Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr esgob eisioes yn lluddedig gan y daith. Aethom ymlaen eilwaith, ac wedi pasio rhai amaethdai bychain, taclus, daethom i olwg y Capel." Saif ar fin y ffordd, ac y mae nifer o dai annedd gerllaw. Dyma'r trydydd addoldy er adeg dechreuad yr achos yn yr ardal neillduedig hon. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1761—blwyddyn cyn geni Robert Roberts. Nid oes dim o'r addoldy hwnnw yn aros er's llawer dydd. Ond dywed traddodiad yr ardal fod y capel hwnnw a'r ty capel yn un adeilad— yr un muriau oedd i'r oll. Cynwysai y ty capel ddwy ystafell—un yn gegin ac yn barlwr, a'r llall yn ystafell wely. Yr oedd y ddwy ar yr un llawr, ac uwchben yr oedd math o oriel perthynol i'r capel. I'r ty capel hwn y daeth Robert Roberts i fyw yn gynar ar ei oes weinidogaethol. Yma y bu hyd y diwedd. Nid ydoedd ond lle digon cyffredin a diaddurn—dim ond dwy ystafell ar lawr. Pa le yr oedd y study, tybed?