Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hawdd credu mai y capel ei hun oedd llyfrgell ac efrydfa y pregethwr seraphaidd. Yno yr ydoedd yn gallu galw y gynulleidfa ger ei fron, pan y mynnai, ac yr oedd ei fyfyrdodau wedi eu bwriadu, nid i'w hysgrifenu yn gymaint, ond i'w traethu, i'w tywallt yn rhaiadrau crychwyn ar gydwybodau y gwrandawyr. Gwelwyd llawer golygfa gofiadwy yn yr hen gapel, gyda'i feinciau celyd, a'i lawr pridd. Clybuwyd yno lais gorfoledd a chân,—swn diwygiadau grymus y ganrif o'r blaen. Adgofiai yr hen wrandawyr am Robert Roberts, fwy nac unwaith, yn cael ei orchfygu gan yr olygfa, yn disgyn o'r pulpud, yn gorfoleddu ar lawr y capel, ac yn cael ei gludo, mewn haner llesmair i'r gadair fraich yn nhy'r capel. Bu y babell gyntaf yn sefyll am hanner canrif, pryd y gwelwyd yn anghenrheidiol i estyn y cortynau. Adeiladwyd yr ail deml yn 1811, yn mhen naw mlynedd wedi marw Robert Roberts. Yr oedd 1811 yn un o flyn-