yddau mawr y Cyfundeb Methodistaidd. Dyna flwyddyn yr ordeinio cyntaf yn y Bala. Ni chafodd seraph Clynnog weled gwawr y cyfnod hwn yn hanes ei enwad. "Pregethwr" yr Efengyl, ac nid "gweinidog" sydd ar gareg ei fedd. Cafodd efe ei urddo, nid drwy osodiad dwylaw, ond drwy nerth y Bywyd anherfynol oedd ganddo i'w gyhoeddi i'r byd. "Yn noniau yr Eneiniad" y cafodd efe ei arwisgo, a'i wneyd yn weinidog cymhwys y Testament Newydd.
Ond son on yr oeddym am yr ail addoldy. Bu y saint yn mynd a dyfod i hwnnw am yr ysbaid o 69 mlynedd, hyd 1870, pan y codwyd y capel presennol. Ond ni chafodd yr ail deml ei chwalu fel y gyntaf. Y mae yn aros hyd y dydd hwn, ac wedi ei gwneyd yn "dy capel." Mewn parlwr bychan, o fewn y ty hwn, y cedwir y "gadair," fel yr "arch" yn nhy Obededom gynt, ac y mae pob pregethwr—bydded fach neu fawr,