Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cael y fraint o eistedd yn nghadair Robert Roberts. ***** Tra byddo ein cyfaill "Zenas, y cyfreithiwr " yn gwneyd trefniadau i ddod a'r gadair i'r awyr agored, ac yn gosod y camera yn ei le, awn allan i fwynhau yr olygfa. Y mae'r nawn yn deg, a'r awyr yn glir. O un cyfeiriad yr ydym yn gweld y mynyddau,—cadwen yr Eryri. Y mae'r Wyddfa'n ddiorchudd, a mwg yr agerbeiriant yn cyrlio ar hyd ei hystlysau, ac uwchben ei cheunentydd. Anhawdd meddwl am lecyn mwy manteisiol i weld y Wyddfa, pan y bo yn ddigon graslawn i ddatguddio ei hun. Yn y pellder y mae Moel Siabod fel pyramid pigfain. Gorwedda y Mynyddfawr ar yr aswy. Ar y dde, y mae y Migneint, ac onibae am y Foel sydd yn codi ei hysgwyddau o'n blaen, buasem yn canfod Dyffryn Nantlle. O gyfeiriad arall yr ydym yn gweled ardal boblog Penygroes, a