gwastadeddau coediog Llandwrog, yn nghyda darn glasliw o gulfor Menai. Golygfa gyfoethog, amrywiaethol, mewn gwirionedd, golygfa fuasai'n ysbrydoli unrhyw un allai deimlo oddiwrth ddylanwadau Anian. Ac y mae hon yn aros fel yr oedd yn nyddiau Robert Roberts,— "aros mae'r mynyddau mawr." Os mai cyffredin oedd annedd y seraph—bregethwr, er nad oedd ganddo nemawr ddim o foethau celfyddyd, —dim darluniau costfawr ar furiau ei ystafelloedd dim cywreinion o wledydd pell,—pa wahaniaeth? Nid oedd raid iddo ond ymlwybro ychydig o'i fyfyrgell i weled golygfa nad yw byth yn heneiddio. Gwelai arddunedd cread Ior. Edrychai ar y wawr yn tori ar grib y mynydd, ac yn ymwasgaru i'r dyffrynoedd. Gwelai ogoniant machlud haul yn goreuro y weilgi, a ser y cyfnos yn pefrio ar y gorwelion pell. Hawdd yw son am gyfleusderau y dref, a manteision y llyfrgelloedd cyhoeddus, ond fel
Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/77
Gwedd