Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mangre y gryfhau egnion corph a meddwl, ac fel lle i weled gweledigaethau Duw, anhawdd fuasai synio am le mwy cymwys na'r llanerch fu un adeg, yn gartref Robert Roberts. Y mae mynwent, ar lecyn heulog, gerllaw y capel. Bellach, y mae llu o bererinion yr ardaloedd yn gorphwys o dan ei phriddellau. Tyf blodau gwylltion yn mysg y beddau, tywyna yr haul yn danbaid ar y meini, nes y mae'n anhawdd credu ambell funud ein bod yn rhandir angeu. Yn mysg y bedd-rodau gwelsom. eiddo y Parch. William Roberts, Hendre bach,—William Roberts, Clynnog. Esboniodd lawer ar y prophwydoliaethau, a bu yn dadleu'n gryf ar Fedydd, gyda'r diweddar Barch. Robert Jones, Llanllyfni. Bu farw yn y flwyddyn 1857, yn 84 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am dros haner canrif. Cerfiwyd englyn o eiddo Eben Fardd ar ei fedd. Dyma fe:—