Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwas gwiw Iesu gwsg isod, —ef oedd wr,
Feddai eiriau parod;
Gwres ei ddawn wnai'r "Gors" ddinod,
Yn amlwg mewn gloew glod.

Y mae y golofn wenlliw sydd yn nghwr uchaf y fynwent yn bytholi coffadwriaeth gwraig garedig,—diweddar briod y Parch. J. Jones, Bryn'rodyn. Nid oes beddfaen eto ar orweddfa Hugh Jones, Bronyrerw, ond ceir yr englyn canlynol, o eiddo Hywel Tudur, ar y garreg lle yr huna dau o'i feibion:—

O Fron-yr-erw i Fryn-hir-aros,—aethant
I fan bythol ddiddos:
O waelni a hir wylnos,
I le gwych, di-nych, di-nos.

Ond y mae y "gwawl—arlunydd" yn barod. Gosodwn y gadair yn nghyntedd yr addoldy, a chaiff yr "esgob" sefyll fel gwyliedydd gerllaw i sicrhau dilysrwydd y drafodaeth! Dyma hi. Cadair ddwyfraich ydyw, wedi ei