Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwneyd o dderw du Cymreig. Ysgafn, yn hytrach, ydyw ei gwneuthuriad, ac y mae ol llaw gelfydd ar y cefn, y breichiau, a'r traed. Rhaid ei bod dros gant oed, ac eto nid ydyw arwyddion henaint wedi ymaflyd ynddi. Erys yn gadarn a hardd: nid oes pryf na phydredd wedi cyffwrdd â'i choed. Gall y duwinydd trymaf yn Arfon eistedd ynddi yn ddiberygl; ac i bob golwg gall ddal am ganrif eto heb fod nemawr gwaeth. Onid yw yn haeddu cael tynu ei llûn? Gofidia edmygwyr Robert Roberts nad oes darlun ohono ef ar gael yn un man. Tra y mae genym ddarluniau gweddol o'r Tadau Methodistaidd-Howell Harris, Daniel Rowland, Williams Pantycelyn, Jones Edeyrn, Charles o'r Bala, &c., nid oes cymaint a lled llaw ar len na maen i ddynodi ffurf gorphorol, na mynegiant gwynebpryd y seraph o Glynnog. Rhaid i arlunydd y dyfodol ddibynu ar ddesgrifiadau yr "hen bobl," fel y maent