Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi eu corphori yn ysgrifau Michael Roberts, Eben Fardd, Dr. Owen Thomas, a Dr. Griffith Parry, yr hwn sydd yn un o ddisgynyddion Robert Roberts.

Dan yr amgylchiadau hyn, pan y mae y creiriau mor brinion, yr ydym yn dirgel feddwl y bydd yn ddymunol gan y darllenydd gael darlun o "gadair" y prophwyd, ac os metha y darlun a llwyr foddhau ei gywreinrwydd, yr ydym yn gwbl foddlawn iddo fynd ar bererindod i Gapel Uchaf, Clynnog, a cheisio gwneyd ei well!

Yno y mae y gadair" hanesyddol wedi cael llety hyd yn hyn. Nid ydyw wedi mudo ond ychydig latheni o'r llecyn lle y defnyddid hi gan ei pherchen hyglod, ac yr ydym yn hyderu mai yno y cedwir hi yn y dyfodol. Cawsom ar deall fod ymgais wedi ei wneyd i'w phrynu, a'i chymeryd i le arall. Na foed i'r frawdoliaeth yn Capel Uchaf ildio i'r demta-