Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

siwn. Nis gellir ei phrynu. Y mae yn rhan o hanes yr achos yn y lle. Gall ei phresenoldeb yno fod yn fendith i lawer. Rhaid i ddyn fod yn gwbl ddi-farddoniaeth os na theimla ryw ias o gysegredigrwydd yn ymgripio drosto yn ymyl "cadair" y gwr fu yn ysgwyd cenedl â'i hyawdledd, ac a barodd i'w wlad ei gofio fel pregethwr "hynotaf" ei ddydd.

Y mae "cadeiriau enwog" Cymru wedi lluosogi er ei amser ef. Er y pryd hwnnw, y mae cadair llenyddiaeth wedi ymgodi i uchel fri, a gallwn ymffrostio yn nghadair yr athrofa a'r brif-ysgol. Ond er amledd cadeiriau anrhydedd ac awdurdod drwy Ogledd a De, yr ydym yn credu y bydd lle arhosol yn nheml crefydd Cymru Fydd i'r gadair yr ydym wedi ceisio ei darlunio, ac adrodd ei hanes,—

CADAIR ROBERT ROBERTS, CLYNNOG.