Tudalen:Can newydd, o berthynas i'r rhyfel a'r terfysg sydd y pryd hyn tros ran fawr o'r byd, gan John Morgans; mesur - Margaret Fwyn (IA wg35-1-594).pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae uchelwyr byd a'r gwerin certh
Mewn hyll bechodau'n myn'd yn serth,
A gwrthod yr efengyl ferth,
'Sy'n gwaeddu'n uchel iawn:
O dowch a throwch, ynfydion rai,
A'r gwatwarwyr, rhag ofn trai,
Gadawed pob rhyw radd eu bai,
Cyn del dialedd llawn.

Rwy'n ofni bod rhyw gwyn, yn wir,
Rhwng yr Arglwydd Dduw a'n tir,
Ac y tery cyn bo hir
Drwm ergyd ar ein caer!
Am hynny, anwyl Israel, clyw,
Bydd barod iawn i gwrdd a'th Duw,
Efe ei hun dy frenin yw,
Gweddia arno'n daer.

Doed pob trigolion gwlad a thre
I difarhau fel Ninife;
Can's pwy a wyr na ddensyn ê
Ryw nodded etto i lawr:
Er dued yw'r cymylau draw,
A'r swn, a'r terfysg mawr, a'r braw,
Gobeithio bod y dydd ger llaw
Y tywyna'r nefol wawr.