Tudalen:Can newydd, o berthynas i'r rhyfel a'r terfysg sydd y pryd hyn tros ran fawr o'r byd, gan John Morgans; mesur - Margaret Fwyn (IA wg35-1-594).pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pabyddiaeth greulon 'n awr y sydd
Yn colli tir o ddydd i ddydd;
Pob Cristion byw na fydded brudd;
O gwel fath arwydd glân;
Canys mae'n rhaid i Babel fawr
Yn ddychrynedig gwympo i'r llawr;
Prysyred Duw y ddedwydd awr
Yr el hi lawr yn lân.

Pryd hyn llewyrcha'r hyfryd wawr
Y gorfoledda nef a llawr,
Wrth weled barnu'r buttain fawr,
A'i dial 'n awr yn bod.
Breninodd daear mawr eu bri,
Yn wylo wrth wel'd ei dial hi,
A'r seintiau'n gorfoleddu sy,
Ac ufudd roddi clôd.

Rhyw angel cryf a ddaeth o'r nef,
Dan grochfloeddio ag uchel lef;
Syrthioedd Babel fawr, medd ef,
Hli aeth yn dref i ddiawl.
Cadwriaeth Sattan tua ei was,
A ffob aderyn aflan cas,
A yfodd win ei goflyd flas. Wa
A droir i maes o'i hawl.