Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A chwithau'r dynion gafodd râd,
O dowch yn llwyr o honi yn gâd,
Rhag eich colli wrth brofi brad
A'i dial addas hi.
A ffoi fel y llofryddion gynt,
Yn mrig y coed mae fwn y gwynt,
I'r noddfa 'r elo pawb a'r hynt,
Fel hyn bo'n helynt ni.
I'r ddinas lân fy a'i muriau gyd
Yn ddiysgogiad er y llid,
Sy' gan elynol ryw trwy'r byd;
Hi bery o hyd yr un.
Mae pawb fy'n byw'n y ddinas hon
Yn anorchfygol oll o'u bron,
Mae ganddynt achos fod yn llon
Yn mhob helbylon blin.
Rhaid ydyw i ryfelodd fod,
A son am ryfel, garw nôd,
Cyn bo diwedd mawr y rhod,
A dydd gollyngdod mawr.
Er goddef galar dros brydnawn,
Fe'n gwneir ni oll yn foddlon iawn,
Rhyw amser gorfoleddus cawn,
A bore llawen wawr.