Tudalen:Can newydd, o berthynas i'r rhyfel a'r terfysg sydd y pryd hyn tros ran fawr o'r byd, gan John Morgans; mesur - Margaret Fwyn (IA wg35-1-594).pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn awr, tra paro goleu'r dydd,
Gweddiwn oll a chalon brudd,
Am ini gael ein rhoddi'n rhydd,
Rhyw hyfryd ddydd a ddaw.
Mae melus fwn rhyw dyrfa fawr
Yn feinio yn fy nghluftiau 'n awr,
Ar fyr difgleiria'r hyfryd wawr,
Rhyw newydd mawr a ddaw.

Cenedlodd pell o eitha'r byd,
Iddewon hen a ddo'nt ynghyd,
Pob lliw, pob iaith, fydd o'r un fryd,
O barthau'r byd fy bell:
I addoli yr un Brenin mawr,
Cynnaliwr nefodd faith a'r llawr,
'Ddwy 'n disgwyl yma gael yn awr,
Un newydd mawr fo gwell.

Bod llwyddiant i'r Efengyl lân,
Dan orchfygu a myn'd achlan,
Er gwaethaf dwfr a ffoethder tan
Hi garia'n lan y dydd.
Y gareg aiff yn fynydd mawr,
Nes llenwi conglau daear fawr,
Maluria hi'r aur, dysgleiria ei gwawr,
Haiarn, arian, pres a ffridd.