Tudalen:Can newydd, o berthynas i'r rhyfel a'r terfysg sydd y pryd hyn tros ran fawr o'r byd, gan John Morgans; mesur - Margaret Fwyn (IA wg35-1-594).pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yno'r aiff cenedlodd byd,
I dy'r Arglwydd yn un fryd,
A llechant yn ei fonwes glyd,
A gwyn eu byd hwy'n awr.
Fe dorir y cleddyfau'n wir
I wneuthur fychau i rwygo'r tir,
A'r waew-ffon yn bladur hir,
I dorri'r gwair i lawr.

O Sion draw y rhua ef,
O Gaersalem y rhydd ei lef,
Y Nefodd fawr a'r ddaear gref,
A grynant oll o'u bron:
Ond ef, yr Arglwydd Dduw dilyth,
Fydd gobaith ei holl weision byth,
Ac ynddo ef, gadarnaf nyth,
Bydd meibion Israel lon.

Meddiannwch eich eneidiau glân,
Yn eich amynedd, fawr a mân,
Nag ofnwch derfysg dwfr na thân,
Nag unrhyw daran gref;
Ond rhedwn oll i hollti'r graig,
Can's ffyddlon iawn yw'r Oen i'r wraig,
Ni ad e'i drygu gan un ddraig;
Cadarnaf noddfa ef.