Tudalen:Can newydd, o berthynas i'r rhyfel a'r terfysg sydd y pryd hyn tros ran fawr o'r byd, gan John Morgans; mesur - Margaret Fwyn (IA wg35-1-594).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y sefyllfa roddes Duw,
O fewn terfysglyd fyd in' fyw,
Byddwn gyfiawn o bob rhyw,
A ffyddlawn yn ein dydd.
Ymddarostynged pawb trwy'n gwlad,
I bob dynol ordinhâd,
A rhoddwn barch, bydd er llefhâd,
I'r llywodraeth fydd.

Mae Duw'n 'wyllysio is y rhod,
In' rodio'n addas er ei glod,
I ostegu'r terfysg fy yma'n bod,
Trwy anwybodaeth mawr;
In' barchu a rhoi pawb o'n blaen,
A charu y brawdoliaeth glân:
Ofnwch Dduw, rhowch barch ar gân,
I'r Pen fy' yma 'n awr.

Duw gadwo'n Brenin rhag pob brad,
Na chaffo dyn mewn tref na gwlad,
Wneuthur iddo ond lieshâd,
Ef tan ein Tad fo'n ben;
A'i gynhysgaethu â rhadau nef,
Y gaffo pawb o'i deulu ef,
Mi wedaf innau ag uchel lef,
AMEN, AMEN, AMEN.




DIWEDD.